MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 3 - £25,583 pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu 1:1 - Lefel 1 - Ysgol Gynradd Aberdaugleddau

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 - £25,583 pro rata

1 x Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 (un-i-un) - contract dros dro tan fis Rhagfyr 2026 (o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol)

27.5 awr yr wythnos

Yn ystod y tymor yn unig

Dyddiad cychwyn: 1 Mehefin 2026

Gradd: 3 / Lefel 1

Gradd 3 - £25,583 am 27.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £16,702.32 pro rata

Gwahoddir ceisiadau am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 1 o fewn ystafell ddosbarth Blwyddyn 5, gan weithio un-i-un gyda disgybl. Swydd dros dro yw hon tan fis Rhagfyr 2026, ac ar yr adeg honno bydd y cyllid yn cael ei adolygu ac mae'n bosibl y bydd estyniad i gyfnod y swydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Stephen Thomas.

Cyfeiriad e-bost: Head.MilfordPrimary@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01646 693861 / 01646 692705

Gofynnir am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn cael ei benodi.

Dyddiad cau: 27 Ebrill 2026 am 12pm

Gan weithio dan gyfarwyddyd yr athro ystafell ddosbarth neu staff uwch, byddwch yn darparu cymorth i ddisgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn unigol, yn ogystal ag o fewn gweithgareddau grŵp bach. Disgwylir i chi hefyd gynorthwyo wrth baratoi deunyddiau ar gyfer gwersi, arwain gweithgareddau grŵp bach dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth a chefnogi'r gwaith o baratoi amgylchedd yr ystafell ddosbarth, e.e. clirio adnoddau, creu arddangosfeydd fel y bo angen a chyfrannu at gyflwyno cynlluniau dysgu unigol dan gyfarwyddyd athro'r dosbarth.

Bydd angen i chi roi sylw i anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, hylendid, cymorth cyntaf a lles. Bydd gofyn i chi hefyd oruchwylio a chefnogi disgyblion gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at ddysgu, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig. Bydd gofyn i chi annog disgyblion i ryngweithio ag eraill mewn gweithgareddau a'u hannog i weithredu'n annibynnol ac ymddwyn mewn ffordd briodol.

Mae addysg hyd at safon dda a dealltwriaeth o anghenion a hawliau plant / pobl ifanc, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn hanfodol i'r rôl hon.

Mae potensial i gamu ymlaen ar hyd llwybr gyrfa cyffrous mewn addysg, a gwneud cynnydd o ran eich datblygiad proffesiynol.

Buddion i Weithwyr

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.