MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: L7 £61,198 - L13 £70,814
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: L7 £61,198 - L13 £70,814
Dyma swydd llawn amser parhaol.Yn eisiau ar gyfer Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
Dymuna'r corff llywodraethol benodi arweinydd arloesol ac ysgogol iawn i arwain a datblygu ymhellach addysg o ansawdd uchel yn yr ysgol bentref hon sydd wrth wraidd cymuned Croesgoch, yn agos at yr arfordir hardd yng ngogledd Sir Benfro. Mae'r ysgol yn cynnig cyfleusterau addysgu rhagorol ac yn cynnal y Cylch Meithrin lleol. Trosodd yr ysgol i fod yn ysgol Gymraeg ym Medi 2025.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
- Ymarferydd brwdfrydig a fydd yn darparu addysgu o safon uchel gan fod y swydd yma yn gofyn am elfen o addysgu
- Siaradwr Cymraeg rhugl a chyfathrebwr rhagorol sy'n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni
- Lysgennad i barhau i hyrwyddo diwylliant ac iaith Cymru
- Gallu darparu arweinyddiaeth broffesiynol ragorol sy'n sicrhau, mewn partneriaeth â disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni, y gymuned ehangach a'r awdurdod lleol, llwyddiant a gwelliant ysgol
- Y gallu i ddatblygu tîm o staff sydd wedi'u hysgogi ac sydd â'r sgiliau i helpu pob plentyn i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo cynhwysiant a chyfartaledd o ran cyfleoedd i'r holl ddisgyblion, waeth beth fo eu hanghenion
- Gallu gweithio'n gydweithredol i ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm sy'n cyfoethogi, yn denu ac yn ysgogi'r disgyblion oll.
- Sgiliau arweinyddiaeth a rheoli rhagorol i gynllunio'n strategol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a rhagori mewn dysgu ar draws ystod oed yr ysgol
- Syniad clir o weledigaeth, gyda'r egni a'r ymroddiad i ddatblygu'r ysgol a sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob disgybl, gyda ffocws clir ar ddeilliannau disgyblion, lles a sicrhau rhagoriaeth
- Dealltwriaeth glir o faterion cwricwlaidd allweddol cenedlaethol a lleol cyfredol
- Sgiliau rhyngbersonol cryf i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda'r corff llywodraethol.
Mae'r swydd hon yn destun Datgelu Uwch (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
ISR L7-13
Dyddiad cau'r swydd -5.5.26
Tynnu'r rhestr Fer -6.5.26
Cyfweliadau -21 a 22 o Fai
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld a'r ysgol, cysylltwch ag Elin Fry yr Uwch Ymgynghorydd Gwella i drefnu apwyntiad drwy e-bostio elin.fry@pembrokeshire.gov.uk neu frye37@hwbcymru.net
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.