MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £40,851 - £43,270 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Swyddog Cyfathrebu (Cyfnod Mamolaeth)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £40,851 - £43,270 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y Swydd

Mae tîm Marchnata a Chyfathrebu effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i rwydwaith Grŵp Llandrillo Menai ac yn cefnogi'r gwaith o recriwtio myfyrwyr a sicrhau enw da'r brand.

Bydd yr Uwch Swyddog Cyfathrebu'n gyfrifol am gyswllt â'r cyfryngau, gan weithio'n agos gyda Swyddog y Wasg i ganfod straeon diddorol ledled y sefydliad er mwyn llunio ysgrifau crefftus a datganiadau i'r wasg amserol. Bydd yr uwch swyddog yn meithrin cysylltiadau newyddiadurol cryf ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a fydd yn sicrhau'r sylw gorau i golegau'r Grŵp.

Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am greu a chynllunio cynnwys ar gyfer nifer o sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol gan weithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol Cynorthwyol i lunio postiadau rheolaidd a pherthnasol sy'n denu sylw ac yn arddangos nod ac amcanion strategol y Grŵp.

Yn ogystal â hyn, bydd yr Uwch Swyddog Cyfathrebu yn arwain y gwaith o ysgrifennu, golygu a phawfddarllen gwaith ar gyfer ystod eang o gyhoeddiadau corfforaethol.


Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/193/26

Cyflog
£40,851 - £43,270 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
05 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)