MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £20.66 - £22.05 yr awr gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Peirianneg and Weldio, Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £20.66 - £22.05 yr awr gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddMaer Adran Peirianneg yn Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau arbenigol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau Peirianneg. Mae dysgu ac addysgu yn digwydd gydag offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern, gan gynnwys adeilad STEM £15m a adeiladwyd yn ddiweddar.
Rydym yn chwilio am staff rhan-amser i ymuno ag adran sydd eisoes yn llwyddiannus sy'n falch o gefnogi staff a myfyrwyr i ragori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o arddangos sgiliau ymarferol ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/189/26
Cyflog
£20.66 - £22.05 yr awr gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod (yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor) sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos(Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd)
40 o wythnosau'r flwyddyn yn ystod tymor y Coleg
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
30 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)