MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr sydd yn cynnwys lwfans gwyliau. yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Peirianneg Cyffredinol a Weldio, Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr sydd yn cynnwys lwfans gwyliau. yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y SwyddMaer Adran Peirianneg yn Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau arbenigol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau Peirianneg. Mae dysgu ac addysgu yn digwydd gydag offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern, gan gynnwys adeilad STEM £15m a adeiladwyd yn ddiweddar.
Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn-amser i ymuno ag adran sydd eisoes yn llwyddiannus sy'n falch o gefnogi staff a myfyrwyr i ragori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel mewn gwaith dosbarth theori ac gwaith ymarferol mewn gweithdy, er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/188/26
Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr sydd yn cynnwys lwfans gwyliau. yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr o ddydd Llun - Gwener. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Hyd at 35 wythnos y flwyddyn, tymor yn unig (Tymor y Coleg)
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
29 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)