MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 28 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swydd
Mae'r rôl hon o fewn y maes Cyfryngau yn yr adran Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai, ac wedi'i leoli ar y campws Celf ym Mharc Menai. Mae llwyddiant y cyrsiau Cyfryngau yn cael ei barchu ledled Cymru a thu hwnt, gyda chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector.
Mae ein cwricwlwm yn cynnwys cyrsiau AB (o lefel 1 i lefel 4
Dyma gyfle i ddarlithydd Cyfrungau ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i
gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/185/26
Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod.
Patrwm gweithio
Hyd at 10 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr o ddydd Llun - Gwener. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Hyd at 35 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
28 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)