MANYLION.
  • Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £33,596 - £51,931
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Lecturer A Level Chemistry BTEC applied Science and ASBW

Y Coleg Merthyr Tudful

Cyflog: £33,596 - £51,931

Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn ceisio penodi darlithydd o safon uchel i addysgu Cemeg UG/A2, BTEC L3 Gwyddoniaeth Gymhwysol a BSCU yn y coleg.

Ydych chi'n angerddol am wyddoniaeth ac yn benderfynol am wneud gwahaniaeth go iawn? Rydym yn chwilio i benodi tiwtor ysbrydoledig, deinamig a brwdfrydig i ymuno a ni.

Bdd angen i chi:
  • Bod yn uchelgeisiol yn eich penderfynoldeb i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cyflawni ac yn datblygu eu potensial llawn
  • Bod yn ysbrydoledig yn yr ystafell dosbarth
  • Gallu darparu profiadau dysgu ymgysylltiol a chreadigol i'r holl ddysgwyr
  • Gallu datblygu ymholiad annibynnol mewn dysgwyr
  • Bod yn ymrwymedig i gynorthwyo dysgwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu
  • Cael disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i'r coleg ehangach
  • Cyfrannu at dîm â pherfformiad uchel

Os ydych yn teimlo fel eich bod yn rhannu ein gwerthoedd, bod gennych y weledigaeth a'r ymdrech am ragoriaeth ac eisiau bod yn rhan o dîm brwdfrydig, ymroddedig gydag adnoddau da, sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu potensial, hoffem glywed gennych.

Dylai ymgeiswyr fod o safon raddedig (neu gyfwerth) a gyda hanes diweddar a llwyddiannus o addysgu Cemeg ar ôl 16.

Mae gwiriad DBS a chofrestriad CGA yn ofynion y swydd hon.

Rydym yn disgwyl i'r holl staff hybu gwerthoedd byw ein Coleg; Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol.

Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle nid yn unig rydym yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliant a chefndiroedd.

Ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig, os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau am geisiadau: 17/04/2026