MANYLION.
  • Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: 28142.00 - 31022.00 GBP per Year
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddai Graddedig Dyfodol Môn - Swyddog Trawsnewid Digidol

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 28142.00 - 31022.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyfle unigryw dan Gynllun Graddedigion Dyfodol Môn, bydd y rôl hon yn cefnogi'r Gwasanaeth Dysgu ac ysgolion Ynys Môn trwy gydlynu agweddau allweddol ar ddiogelu data, rheoli gwybodaeth a systemau digidol. Bydd deiliad y swydd yn helpu ysgolion i fodloni gofynion statudol trwy gynnal cofnodion cywir, cefnogi swyddogion diogelu data, a chyfrannu at brosesau llywodraethu gwybodaeth effeithiol. Byddant hefyd yn darparu cefnogaeth ymarferol wrth ddatblygu a chynnal gwefan SharePoint y Gwasanaeth Dysgu, gan sicrhau y gall ysgolion gael mynediad at wybodaeth drefnus, ddibynadwy sy'n cydymffurfio.

Mwy o wybodaeth
Cytundeb: 3 Blwyddyn

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Elen Pritchard

Rhif ffôn: 07760314138

Cyfeiriad e-bost: elenpritchard@ynysmon.llyw.cymru