MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa 6 £28,142 + AAA (£1539) xx 77.15%
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Learning Support Assistant - Ysgol Nantgwyn

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Graddfa 6 £28,142 + AAA (£1539) xx 77.15%

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002248 Dyddiad postio 27/03/2026 Dyddiad cau ceisiadau 10/04/2026 Cyflog Graddfa 6 £28,142 + AAA (£1539) xx 77.15% Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil JD LSA SEBD Ysgol Nantgwyn Easter 2026.docx

Learning Support Assistant - Ysgol Nantgwyn

Disgrifiad Swydd
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol) yn Ysgol Nantgwyn i ddechrau Pasg 2026.

Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi cynorthwy-ydd cynnal dysgu. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a'r profiad priodol i roi cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn dosbarth cynnal dysgu yn Ysgol Nantgwyn. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at ddeuddeg o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd cynnal dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, ar 01443 744333.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Ebril 2026

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.