MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pwllheli,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £12,278 - £13,324 gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Astudiaethau Plentyndod, Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £12,278 - £13,324 gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddFel Aseswr o fewn tîm Gofal Plant Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, byddwch yn chwarae rôl bwysig yn y tîm sy'n cyflwyno'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm cefnogol, uchelgeisiol a llwyddiannus sy'n ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac i baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector gofal plant. Byddwch yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant.
Mae'r Aseswr Gofal Plant yn gyfrifol am gyflwyno hyfforddiant, asesu a gwirio mewnol gwaith y dysgwyr. Mae'r rôl yn cefnogi dysgwyr Addysg Bellach amser llawn sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith ar draws yr ardal leol, gan sicrhau bod elfennau ymarferol eu cymhwyster yn cael eu hasesu yn y gweithle a bod dysgwyr yn gallu dangos cymhwysedd yn unol â gofynion y cymhwyster.
Gan weithio'n gydweithredol gyda staff addysgu, cyflogwyr a chydweithwyr ehangach Grŵp Llandrillo Menai, bydd yr Aseswr yn monitro cynnydd dysgwyr, yn cynnal arsylwadau yn y gweithle, ac yn darparu arweiniad a chefnogaeth er mwyn galluogi dysgwyr i gwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus a chyflawni eu cymhwyster.
Byddwch yn ymuno â thîm llwyddiannus ac uchelgeisiol sydd â hanes cryf o lwyddiant dysgwyr, gan gynnwys canlyniadau arholiad rhagorol yn ddiweddar, presenoldeb uchel ar draws y rhaglen, a chyfraddau llwyddiant rhagorol. Mae'r rôl hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd y rhaglen, yn cefnogi gweithgareddau recriwtio dysgwyr ar draws y campws
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/175/26
Cyflog
£12,278 - £13,324 gan gynnwys tal gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Pwllheli
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos, 36 wythnos y flwyddyn, yn ystod tymor y Coleg
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
17 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)