MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Gyflog 6 - S01 £34,204 - £40,503 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 6 - S01 £34,204 - £40,503 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
Arweinydd Systemau CRMGraddfa Gyflog 6 - S01 £34,204 - £40,503 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
Llawn Amser a Pharhaol
Mae Coleg Penybont yn chwilio am Arweinydd CRM HubSpot i arwain ar y gwaith o ddatblygu, integreiddio a mabwysiadu ein sysrtem rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM). Fel yr Arweinydd Systemau CRM, byddwch yn cymryd perchnogaeth o wreiddio HubSpot ar draws timau, systemau ac arferion gwaith, gan sicrhau ei fod yn dod yn offeryn canolog i ni reoli cysylltiadau, hyrwyddo gweithgareddau marchnata a datblygu busnes newydd.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â galluoedd CRM technegol a sgiliau ymgysylltu sefydliadol cryf, a fydd yn gweithredu fel arweinydd system a hyrwyddwr mewnol ar gyfer trawsnewid digidol.
Diben y Swydd
I yrru'r defnydd strategol o'r system CRM i wella cydweithio mewnol, cefnogi twf incwm masnachol a chryfhau ymgysylltiad â dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Canlyniadau Allweddol
- Mabwysiadu'r system CRM, HubSpot, ledled y sefydliad.
- Cyfathrebu a chydweithio mewnol gwell trwy rannu prosesau.
- Data clir a dibynadwy , trwy sefydlu'r system CRM fel yr &slshquot;un ffynhonnell wirionedd&slshquot;.
- Gweithgareddau marchnata ac ymgysylltu gwell wedi'u cefnogi gan lifau gwaith cadarn.
- Cynhyrchu mwy o incwm trwy welededd gwell o gyfleoedd masnachol a phartneriaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau. Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU. Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni. Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.