MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £15,511 am 18.5 awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £15,511 am 18.5 awr
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002196 Dyddiad postio 25/03/2026 Dyddiad cau ceisiadau 08/04/2026 Cyflog £15,511 am 18.5 awr Oriau gwaith 18.5 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Cynorthwy-ydd Datblygu Materion Busnes Gofal Plant.pdf Childcare Business Development Assistant.pdf
Cynorthwy-ydd Datblygu Materion Busnes Gofal Plant
Disgrifiad Swydd
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Datblygu Materion Busnes Gofal Plant i ymuno â'n Carfan Gofal Plant ni. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddyletswydd statudol y Cyngor o ran sicrhau bod digon o ofal plant ar gael i rieni sy'n gweithio, sy'n derbyn hyfforddiant neu sydd yn y byd addysg.
O'ch penodi, byddwch chi'n cynnig cyngor ac arweiniad i leoliadau ar gofrestru, polisïau a gweithdrefnau Arolygiaeth Gofal Cymru a chynllunio busnes. Byddwch chi'n cefnogi'r broses gynllunio a darparu achlysuron hyfforddi, Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac ymrwymiadau ar gyfer y sector gofal plant yn Rhondda Cynon Taf, trwy achlysuron wyneb yn wyneb ac ar lwyfannau ar-lein. Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygiad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant y Cyngor ac yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru, gan gynnwys cefnogi darparwyr gofal plant i gyflawni'r cynllun.
Bydd gyda deiliad y swydd wybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector gofal plant a rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru, ynghyd â gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â chynnig cyngor a chefnogaeth i sefydliadau gofal plant i wella eu harferion busnes. Bydd gyda chi brofiad o weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o randdeiliaid, megis sefydliadau cysylltiedig â gofal plant, darparwyr gofal plant, rhieni a phersonél yr Awdurdod Lleol.
Byddwch chi'n llawn cymhelliant ac yn rhagweithiol ac yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun. n gallu blaenoriaethu'ch llwyth gwaith i ateb gofynion a therfynau amser newidiol.
Byddwch chi'n gweithio 18.5 awr yr wythnos yn unol â chynllun oriau hyblyg y Cyngor. Mae'r swydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Abercynon, fodd bynnag, bydd diwrnodau swyddfa yn cynnwys 2 yr wythnos ar ddiwrnodau penodol sy'n cynnwys dydd Mercher a dydd Gwener. Bydd hyn yn cael ei adolygu pan fydd yn berthnasol. Mae'i hariannu'n allanol a bydd yn swydd dros dro sy'n para tan 31 Mawrth 2027 yn yr achos gyntaf, gyda'r posibilrwydd o'i hymestyn ar ôl y dyddiad yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sian Wood - Arweinydd y Garfan Gofal Plant ar 07393 759217 neu drwy e-bost sian.wood@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.