MANYLION.
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal Plant, Dros Dro

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Byddwch yn ymuno â thîm o ddarlithwyr sy'n gyfrifol am ddarparu Addysg Bellach ac/neu Addysg Uwch ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae oddeutu 200 o fyfyrwyr yn astudio'n ddwyieithog yn yr Adran Iechyd a Gofal ar draws y ddau gampws yn Nolgellau a Phwllheli. Rydym yn cynnig cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn ogystal â cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd), cwrs Lefel 4 i Lefel 6 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Bagloriaeth Cymru.

Croesewir ceisiadau yn arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol / gofal a datblygiad plant - rolau lle mae gennych ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth, polisi a materion cyfoes cyfredol yn y sector Datblygiad ac Addysg Plant neu'r sector Gofal Iechyd.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu ar y cyrsiau Addysg Bellach ac/neu Addysg Uwch yn unol â'u maes arbenigedd. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny.

Mesurir llwyddiant ein hadran gan y dysgu o ansawdd uchel a'r cyfleoedd a gynigir i'n dysgwyr. Yng nghanlyniadau Lefel-A Iechyd a Gofal Cymdeithasol Haf 2025, llwyddodd ein myfyrwyr gyda chyfradd llwyddiant o 100%. Mae ein myfyrwyr yn aml yn cyflawni graddau uwchlaw'r cymhardd cenedlaethol. Ym Mhwllheli, llwyddodd 95% i basio gyda graddau A*-C yn y Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2025/26. Llwyddodd 92% i basio'r cymhwyster gofal plant gyda Gradd A-C.

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn rhannu swydd.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/169/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau pro rata gyda thâl ym mhob blwyddyn academaidd (sef y cyfnod rhwng 1 Medi a 31 Awst). Mae hyn yn cynnwys hawl pro rata i Wyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus traddodiadol Cymru (8 diwrnod) a hawl pro rata i 5 diwrnod effeithlonrwydd (noder y gall hyn newid yn bob blwyddyn). Caiff gwyliau blynyddol ei gyfrifo ar sail cyfran pro rata o'r hawl llawn amser o 46 awr sy'n gynwysedig yn y gyfradd a delir fesul awr.

Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn dibynnu ar argaeledd. Mae'r pwnc a'r lefel cyflwyno yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn ddibynnol ar feini prawf y pwnc) yn cael ei ychwanegu i'r oriau a weithir i adlewyrchu'r gwaith paratoi a marcio.

35 wythnos y flwyddyn (yn ystod Tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
10 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)