MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Santes Dwynwen,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: 21355.00 - 23541.00 GBP per Year
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu - Lefel 4 - Cefnogi & Chyflwyno Dysgu
Cyngor Sir Ynys Mon
Cyflog: 21355.00 - 23541.00 GBP per Year
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytûn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Manon Williams
Rhif ff ô n: 01248 663894
Cyfeiriad e-bost: 6603037_p ennaeth.santesdwynwen@hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch, Ynys Môn, LL61 6AE
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2026