MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £27,236 - £27,936
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Adolygu - Adeiladu CC/3068

Coleg Cambria

Cyflog: £27,236 - £27,936

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Adolygu - Adeiladu

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol: Llawn Amser

Cyflog: £27,236 - £27,936

Mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Adolygu yn ein cyfarwyddiaeth Dysgu yn y Gwaith (DyyG) ar hyn o bryd.

Bydd gofyn i'r Swyddog Adolygu o weinyddu'r broses adolygu contractau dysgwyr DyyG yn unol â manyleb rhaglen Llywodraeth Cymru.

Fel Swyddog Adolygu, byddwch yn ganolog i daith y dysgwyr, yn mentora dysgwyr ac yn eu harwain at ennill eu cymwysterau galwedigaethol. Byddwch yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth bugeiliol o safon uchel a chynnal adolygiadau cynnydd rheolaidd i sicrhau bod pob dysgwr yn aros ar y trywydd iawn. Trwy weithio'n agos gyda thiwtoriaid Addysg Bellach ac ymarferwyr DyyG, byddwch yn helpu myfyrwyr i gasglu eu portffolios, diweddaru Cynlluniau Dysgu Unigol, a monitro cerrig milltir i sicrhau bod eu taith addysgol yn gywir ac yn werth chweil. P'un a ydych chi'n cysylltu â thimau diogelu mewnol neu randdeiliaid allanol, eich nod yw cefnogi llwyddiant myfyrwyr a sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl.

Mae'r swydd yn gofyn am lygad graff a gallu rhagweithiol i reoli llwyth achosion. Trwy gasglu adborth dysgwyr a mireinio'n broses gymorth yn barhaus, byddwch yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddiwylliant o ragoriaeth a chyflawni canlyniadau dysgwyr.

Gofynion Hanfodol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd lefel 2
  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu'n fodlon gweithio tuag at hynny
  • Cymhwyster Cynghori a Rhoi Arweiniad / Mentora Lefel 2 o leiaf
  • Profiad o weithio mewn swydd sy'n golygu rhoi cymorth gweinyddol
  • Gallu cyfathrebu yn rhugl (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn y Gymraeg
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Mewnrwydi yn ogystal â bod yn fodlon dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd
  • Gallu datrys problemau a gwneud penderfyniadau ariannol lefel isel sydd o fewn cyfyngiadau gweithdrefnau a rheoliadau ariannol
  • Gallu rhoi sylw gofalus i fanylion a gallu croeswirio data yn fanwl gywir
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser gwych

Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig