MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £77,990 - £84,832 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £77,990 - £84,832 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Oes gennych chi weledigaeth fel arweinydd ac ydych chi'n frwd dros ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, creu twf economaidd yn y rhanbarth, a gwella dyfodol pobl drwy ddarparu sgiliau ar gyfer swyddi da a ffyniant? Dyma eich cyfle i arwain cyfarwyddiaeth bwysig yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Fel Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith y Grŵp byddwch yn arwain Busnes@LlandrilloMenai - ein gwasanaeth arbenigol i gyflogwyr.Ar y cyd â'r ddarpariaeth Addysg Bellach ac Addysg Uwch mae Busnes@LlandrilloMenai yn un o dri gwasanaeth craidd Grŵp Llandrillo Menai, ac mae'n cynnig gwasanaethau arbenigol i gyflogwyr i feithrin sgiliau, datblygu'r gweithlu ac ysgogi twf economaidd yng ngogledd Cymru. Darparir gweithgareddau Busnes@ drwy dair cyfarwyddiaeth: Diwydiannau'r Tir, Contractau Masnachol a Data, a Dysgu Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith.
Yn y swydd byddwch yn arwain y ddarpariaeth prentisiaethau, yn hyrwyddo'r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn datblygu partneriaethau cryf â chyflogwyr i ddeall eu hanghenion sgiliau ac i gynnig datrysiadau hyfforddi arloesol o ansawdd uchel.
Byddwch yn goruchwylio prosiectau masnachol mawr, yn arwain timau mewn nifer o leoliadau hyfforddi, ac yn sicrhau bod ein darpariaeth yn hyblyg, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol. Drwy brentisiaethau, cyrsiau byr a chyrsiau micro-ddysgu i ddatblygu gweithlu arbenigol, a phrosiectau mawr a ariennir, bydd eich arweinyddiaeth yn helpu busnesau i ddatblygu'n gryfach er mwyn cefnogi economi ranbarthol ffyniannus.
Yn ogystal, bydd gan ddeiliad y swydd broffil allanol cryf. Bydd deiliad y swydd yn lladmerydd amlwg dros Busnes@ a'r Grŵp, gan ddatblygu partneriaethau dylanwadol â chyflogwyr, a rhanddeiliaid allweddol fel y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, Medr, Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Drwy'r cysylltiadau hyn, bydd yn helpu i ffurfio agenda sgiliau gogledd Cymru ac yn sicrhau bod ein darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith a masnachol yn parhau i fod yn ymatebol, yn ddwyieithog, yn arloesol, ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd.
Ymunwch â ni i lunio gweithlu'r dyfodol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/164/26
Cyflog
£77,990 - £84,832 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Lleoliad gwaith i'w drafod
- Llanelwy
Hawl gwyliau
- 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
15 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)