MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 2 - £24,413 pro rata\nGrade 3 - £24,796 pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Goruchwyliwr Amser Cinio - Ysgol Gynradd Gelliswick

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 2 - £24,413 pro rata\nGrade 3 - £24,796 pro rata

Cyfle am swydd: Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Goruchwyliwr Amser Cinio amser llawn

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick - Aberdaugleddau, Sir Benfro

Rydym am benodi chwe Chynorthwyydd Cymorth Dysgu a Goruchwyliwr Amser Cinio brwdfrydig ac ymroddedig, am 28.5 awr yr wythnos (Cynorthwyydd Cymorth Dysgu 26 awr, a Goruchwyliwr Amser Cinio 2.5 awr), i ymuno â'n cymuned ysgol fywiog a chynhwysol. Mae'r rolau hyn ar gael i ddechrau ar unwaith, yn amodol ar wiriadau perthnasol.

Gradd 2 - £24,413 am 2.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 44.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £1,417.32 pro rata, gan godi i 45.8 wythnos y flwyddyn a £1,448.95 pro rata ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Gradd 3 -24,796 am 26 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'15,305.51 pro rata, gan godi i 46.8 wythnos y flwyddyn a £15,639.69 pro rata ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Swyddi sydd ar gael:
  • 1 x Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Canolfan Adnoddau Dysgu
  • 2 x Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - yr Ysgol Isaf
  • 2 x Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Meithrin
  • 1 x Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - yr Ysgol Uwch
1 x Swydd benagored / 5 x Swydd cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2027

Dyddiadau allweddol:
  • Dyddiad cau: Dydd Iau 9 Ebrill 2026
  • Llunio'r rhestr fer: Dydd Llun 13 Ebrill 2026
  • Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 20 Ebrill 2026
Ynglŷn âr rôl:

Fel cynorthwyydd cymorth dysgu, byddwch yn:
  • gweithio dan arweiniad staff addysgu a staff uwch, yn bennaf o fewn yr ystafell ddosbarth;
  • cefnogi mynediad at ddysgu i bob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • cynorthwyo i reoli disgyblion a chyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd:
  • yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig dros gefnogi dysgu plant;
  • wedi ymrwymo i ddisgwyliadau uchel ac addysg gynhwysol;
  • yn gallu gweithio'n gydweithredol ac yn hyblyg o fewn tîm.
  • Ar gyfer y swydd yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu, rhaid i ymgeiswyr ddangos brwdfrydedd dros weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Gofynion:
  • Mae cofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn hanfodol.
  • Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ymrwymiad diogelu:

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick a Gwasanaeth Plant ac Ysgolion Sir Benfro wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn, a chynnal y safonau uchaf o ran amddiffyn plant.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.