MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £26,582 - £27,120
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Derbyniadau CC/3073

Coleg Cambria

Cyflog: £26,582 - £27,120

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cymhorthydd Derbyniadau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser (contract 0.6, 22.2 awr yr wythnos)

Graddfa Gyflog: £26,582 - £27,120 (pro rata)

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Cynorthwy-ydd Derbyn ar ein Campws Glannau Dyfrdwy.

Fel Cymhorthydd Derbyniadau byddwch yn helpu i ddarparu cymorth o'r radd flaenaf i wasanaeth derbyniadau'r coleg. Prif ddyletswydd y swydd yw darparu gwasanaeth derbyniadau a phrofiad ymgeisydd o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n arwain y sector ac yn deg a thryloyw.

Bydd dyletswyddau Cymhorthydd Derbyniadau yn cynnwys cynorthwyo gyda phrosesu a gwirio holl ffurflenni cais myfyrwyr (ar bapur ac ar-lein) o fewn y terfynau amser penodedig. Ymateb yn briodol a phrydlon i ymholiadau, galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost a Sgwrio Byw i ddatblygu adnoddau technolegol a gwasanaethau sy'n cynyddu lefelau gwasanaethau i gwsmeriaid a chyfathrebu gyda dysgwyr yn y modd modern y maent wedi arfer ag ef.

Gofynion Hanfodol

• NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes

• Darparu cymorth swyddfa i'r tîm Derbyniadau ar holl safleoedd y coleg

• 4 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Saesneg a Mathemateg

• Trefnus iawn ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol

• Gallu cynorthwyo anghenion dysgwyr a gweithwyr y coleg

• Gallu cyfathrebu'n effeithiol dros y ffôn, drwy e-bost, sgwrs fyw a neges destun

• Agwedd hyblyg, gallu gweithio ar eich liwt eich hun

• Gallu defnyddio ffôn yn dda

• Prydlon, trefnus, a deall pwysigrwydd sgiliau rheoli amser da

Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig