MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £31,132 - £33,912
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £31,132 - £33,912
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Anogwr Gwytnwch Twf Swyddi Cymru+
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn amser: parhaol
Cyflog: £31,132 - £33,912
Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Anogwr Gwytnwch i weithio yn ein Twf Swyddi Cymru+
Bydd yr Anogwr Gwydnwch yn chwarae rhan allweddol wrth wella ymgysylltiad, datblygiad a dargadw dysgwyr o fewn Twf Swyddi Cymru. Mae'r swydd hon yn cynnwys cefnogi dysgwyr i'w helpu i ymgyfarwyddo â'u dysgu a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n rhwystro cyfranogiad gweithredol.
Mae cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys integreiddio pob dysgwr yn ddi-dor i raglen Twf Swyddi Cymru+ ar draws y tair haen sydd ar gael, gan gynnwys cyfarfodydd cychwynnol gyda darpar ddysgwyr a chwblhau sesiynau ymsefydlu ffurfiol.
Byddant yn rheoli llwyth achosion penodol o ddysgwyr ledled Glannau Dyfdrwy a Sir y Fflint (gan gynnwys isgontractwyr), gan ddarparu hyfforddiant a chymorth bugeiliol priodol; gan eu hatgyfeirio lle bo'n briodol at sefydliadau eraill i sicrhau nad ydynt yn mynd yn NEET.
Yn ogystal, bydd yr Anogwr Gwydnwch yn cyfrannu at Gynlluniau Dysgu Unigol (CDU) ar gyfer pob dysgwr er mwyn sicrhau cynnydd effeithiol tuag at dargedau a deilliannau dysgwyr sefydledig
Gofynion Hanfodol
- Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad
- Cymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu'n fodlon gweithio tuag at hynny
- Profiad o weithio gyda phlant 16-18 oed.
- Profiad o weithio gydag ieuenctid sydd wedi'u dadrithio/ NEETs
- Gwybodaeth dda o asiantaethau sy'n ymwneud â chymorth pobl ifanc yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
- Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen
- Gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser
- Gallu dangos gwytnwch personol er mwyn ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd
- Empathi i ddelio â phobl ifanc
- Gallu ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig