MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Graddfa Gyflog 2 - £25,402 y flwyddyn pro rata (£15,447.16 cyflog gwirioneddol y flwyddyn)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 2 - £25,402 y flwyddyn pro rata (£15,447.16 cyflog gwirioneddol y flwyddyn)
Gweinyddwr BusnesRhan Amser (22.5 awr yr wythnos a Chyfnod Penodol tan 31 Hydref 2026 (Cyfnod Mamolaeth)
Graddfa Gyflog 2 - £25,402 y flwyddyn pro rata (£15,447.16 cyflog gwirioneddol y flwyddyn)
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Darpariaeth Ran-amser! Rydym yn chwilio am rywun dros dro am gyfnod mamolaeth i weithio tri diwrnod yr wythnos i helpu gyda'r tasgau gweinyddol cynyddol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth hanfodol i dasgau gweinyddol ychwanegol sy'n gysylltiedig â data cyrchfannau Cyfrifon Dysgu Personol, gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion archwilio newydd Medr. Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer prosesau cofrestru cwricwlwm rhan-amser a Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fis Ebrill i fis Hydref 2026.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig cymorth ar y safle wrth drefnu digwyddiadau masnachol ac yn cynorthwyo gyda'r gwasanaeth Cyfarfod a Chyfarch, a all gynnwys teithio i gampysau eraill.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â 5 TGAU o leiaf Gradd C neu uwch neu gyfwerth a rhaid iddynt gynnwys Saesneg a Mathemateg. Gyda sgiliau trefnu a TG rhagorol, bydd gennych y gallu a'r hyder i weithio ar draws systemau gweinyddu amrywiol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.