MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Bryngwran,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: 13.05 - 13.26 GBP per Hour
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu - Lefel 2

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 13.05 - 13.26 GBP per Hour

Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol i cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Oriau Gwaith: 10 awr yr wythnos (2 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos)

Cytundeb: Cytundeb dros dro hyd at Haf 2026

Yn ogystal mae'r ysgol yn edrych i benodi Goruchwyliwr Brecwast ( Manylion swydd ) ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion a diddordeb ymgymryd â'r rôl yma yn ychwanegol.

Bydda'r ymgeisydd llwyddiannus yn gyflogedig yn y clwb brecwast o 8 hyd at 9 y bore ac yna'n cychwyn dyletswyddau fel Cymhorthydd Addysgu am ddwy awr yn ystod y diwrnod ysgol. Gofynnir i ymgeiswyr nodi'n glir ar y ffurflen gais os yn cyflwyno cais am y ddwy rôl neu'r rôl Cymhorthydd Addysgu yn unig.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon. Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith.

Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Ceri Thomas

Rhif ffôn: 01407 720400

Cyfeiriad e-bost: 6602135_pennaeth.bryngwran@Hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Bryngwran, Bryngwran, Ynys Môn, LL65 3PP

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2026