MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Presenoldeb - Ysgol Greenhill

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata

Swyddog Presenoldeb

YSGOL GREENHILL

Mae Ysgol Greenhill, sy'n ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11 i 19 oed, yn gwasanaethu tref gaerog hanesyddol Dinbych-y-pysgod a'r cylch. Wedi'i lleoli o fewn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'u gwerthoedd a'u hethos cryf.

Mae hon yn swydd amser llawn barhaol am 37 awr yr wythnos, ac mae angen dechrau ym mis Medi 2026.

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2026 yn Ysgol Greenhill.

Mae angen Swyddog Presenoldeb ar Ysgol Greenhill i ymuno â'r tîm gweinyddol gyda chyfrifoldeb am fonitro presenoldeb a darparu cefnogaeth weinyddol mewn perthynas â derbyniadau pob disgybl. Hyrwyddo diwylliant presenoldeb a phrydlondeb cadarnhaol. Cysylltu âr uwch-bennaeth cynorthwyol sy'n gyfrifol am bresenoldeb, y penaethiaid tai, swyddog presenoldeb y teulu ysgolion, ac asiantaethau allanol. Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer rhieni/gofalwyr, staff, disgyblion a'r awdurdod lleol mewn perthynas â holl faterion presenoldeb.

Rydym yn gofyn am rywun sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
  • Meddu ar NVQ 3 neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol
  • Sgiliau rhifedd / llythrennedd da iawn
  • Yn gallu defnyddio TGCh a chyfarpar / adnoddau eraill yn effeithiol
  • Gwybodaeth ymarferol lawn am bolisïau/codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol (hyfforddiant i'w ddarparu lle bo angen)
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall rolau a chyfrifoldebau'r ysgol a'ch lle eich hun o fewn y rhain
  • Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a mynd ati'n weithredol i chwilio am gyfleoedd dysgu
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch âr Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.