MANYLION.
  • Lleoliad: Litchard Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Leadership Scale L(18) £80,080 - L(24*) £91,836 per annum
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Llidiart

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Leadership Scale L(18) £80,080 - L(24*) £91,836 per annum

32.5 awr yr wythnos

Ar gyfer mis Medi 2026.

Mae Ysgol Gynradd Llidiart wedi'i lleoli ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n gwasanaethu cymunedau'r Llidiart, y Felin Wyllt, a Phendre. Mae'r ysgol yn ganolbwynt yn y gymuned leol sy'n cefnogi teuluoedd o gefndiroedd amrywiol iawn. Mae Ysgol Gynradd Llidiart yn ysgol fawr, bwrpasol gyda phwll nofio wedi'i gosod mewn tiroedd helaeth. Rydym yn croesawu plant rhwng 3 ac 11 oed ac yn ymfalchïo ein bod yn gallu cynnig amgylchedd dysgu o ansawdd iddynt lle byddant yn cael eu haddysgu a'u gofalu gan weithwyr proffesiynol profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae gan yr ysgol ddosbarth Canolfan Adnoddau Dysgu (LRB) a dosbarth Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD) sy'n derbyn atgyfeiriadau gan yr awdurdod lleol. Yn Llidiart, rydym yn falch o'r safonau uchel rydym yn eu cyrraedd. Cafodd y rhain eu cydnabod gan adroddiad arolygu Estyn da iawn yn 2025 ac maent wedi derbyn nifer o wobrau.

Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i gyrraedd safonau rhagorol yn yr ysgol. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant, sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl, a pharhau i godi safonau cyflawniad. Byddwch yn hyrwyddo sylfaen ddiogel ar gyfer cyrraedd safonau uchel ym mhob maes o waith yr ysgol. Byddwch yn cynnal ac yn gwella'r diwylliant sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cydraddoldeb a disgwyliadau uchel pob disgybl yn Llidiart. Bydd y Pennaeth yn gweithio gyda'r gymuned leol ehangach i gynnal partneriaethau a chysylltiadau effeithiol.

A chithau'n Bennaeth neu Ddirprwy Bennaeth profiadol, bydd gennych brofiad rheoli, sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg, a phrofiad o arwain newid. Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am y penodiad hwn feddu ar y CPCP

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Taith o amgylch yr ysgol: 18 Mawrth 2026 am 2pm

Dyddiad Cau: 13 Ebrill 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Ebrill 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 20 a 21 Ebrill 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person