MANYLION.
  • Lleoliad: Ebbw Vale,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 4 £26,403 - £28,598 per annum, pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 - Ysgol Pen y Cwm

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: Grade 4 £26,403 - £28,598 per annum, pro rata

Mae Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu i ymuno â thîm brwdfrydig ac ymroddedig o staff, i gefnogi dysgwyr gydag anghenion cymhleth yn ein ysgol arbennig 4-19 oed yng glynebwy.

Rhaid i'r ymgeisydd fod yn fodlon dangos ei fod/bod yn chwaraewr tîm wrth ochr ein tîm cymorth sefydledig, sy'n cynnal eu gwerthoedd craidd drwy:
• Alluogi dygwyr i fod yn llwyddiannus drwy ddatblygu a chefnogi agweddau rhagorol at ddysgu.
• Cefnogi llesiant emosiynol dysgwyr, gan eu galluogi i bod yn ddiogel bob amser.
• Bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
• Rhaid i chi fod yn ddyfeisgar, cadarnhaol, emosiynol gydnerth a bod ag ymagwedd holistig at gefnogianghenion plant a phobl ifanc. Mae gallu i gyfrannu at ethos gynnes a gofalgar ein hysgol ynhanfodol.

Byddai'r swydd yn gweddu rhywun gyda hyblygrwydd, brwdfrydedd a sensitifrwydd, yn ogystal â dealltwriaeth ragorol o ADY. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn barod i gefnogi'r holl ddysgwyr ar draws yr ystod oedran cyfan.

Cynhelir sgrinio cyn-cyflogaeth trwyadl yn ystod y broses recriwtio. Bydd angen i ddeiliad y swydd gwblhau cais am Ddatgelu Cofnodion Troseddol.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 20 Mawrth 2026

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: Dydd Llun 23 Mawrth 2026

Dyddiad Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 13 Ebrill 2026

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg dan gategori Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgol ar gyfer y swydd hon a bydd angen i'r cofrestru fod yn ei le cyn dechrau yn y swydd. Mae gwybodaeth ar sut i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gael ar y wefan ddilynol http://www.cga.cymru/ neu drwy ffonio 02920 460099.