MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £54,125 - £56,871
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch Ymgynghorydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £54,125 - £56,871
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2929
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Soulbury 10-12
Cyflog:
£54,125 - £56,871
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£28.05 - £29.48
Oriau Contract:
22awr 22munud
Soulbury SPA Points:
Dewch i ymuno â'n tîm
Gwasanaeth Y Gymraeg mewn Addysg
Yn eisiau erbyn 1 Ebrill 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
Uwch Ymgynghorydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (0.6)
Cyflog: Soulbury 10-12 + 3 SPA
0.6 Rhan Amser, cytundeb parhaol
- A ydych chi'n arweinydd sy'n barod i gefnogi a hyrwyddo dyfodol addysg Gymraeg a dwyieithog yn Sir Gâr?
- Ydych chi'n feddwlwr strategol, yn hyderus wrth weithio ar lefel system, ac yn gallu ysbrydoli eraill i ddilyn arweiniad?
- A oes gennych angerdd dwfn dros sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu mewn ysgolion ac yn y gymuned?
Dyma gyfle unigryw i wneud effaith wirioneddol drwy gefnogi gweithrediad un o brif flaenoriaethau'r Cyngor.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dymuno penodi Uwch Ymgynghorydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) i ymuno â'n tîm brwdfrydig a phroffesiynol sy'n arwain ar gyflawni dyheadau uchelgeisiol y Cyngor ar gyfer y Gymraeg mewn addysg. Dyma gyfle eithriadol i gyfrannu at waith arwain system, sy'n dylanwadu ar ddarpariaeth Gymraeg ar draws y sir gyfan ac yn cefnogi ysgolion i wneud cynnydd o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi a dirprwyo dros Rheolwr Datblygu'r Iaith Gymraeg, gan ddarparu arweiniad strategol a gweithredol ar feysydd allweddol o fewn y CSCA.
Prif Ddyletswyddau
Bydd deiliad y swydd yn:
- ddarparu arbenigedd ac arweiniad i ysgolion ar addysg Gymraeg a dwyieithog
- cyfrannu at gefnogi, cydlynu a monitro gweithredu blaenoriaethau'r CSCA
- cynorthwyo'r Rheolwr Datblygu'r Iaith Gymraeg drwy arwain elfennau o gynllunio, dadansoddi, ac adrodd
- datblygu a chynnal partneriaethau cryf gydag ysgolion, swyddogion a phartneriaid allanol
- cynrychioli'r Awdurdod Lleol mewn cyfarfodydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau bod lleisiau'r sir yn cael eu clywed mewn trafodaethau polisi ac arfer
- cynorthwyo'r dadansoddiad o ddata ac ar brosesau cynllunio ac adrodd sy'n llywio penderfyniadau system‑leol
- hyrwyddo ac eirioli dros ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog o ansawdd uchel, gan rannu ac arddangos arferion da
Sgiliau ac Arbenigedd Angenrheidiol
Mae'r rôl hon yn gofyn am:
- Sgiliau Iaith Gymraeg Lefel 5 (llafar ac ysgrifenedig)
- Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- Profiad sylweddol o weithio ar lefel system - e.e. arwain newid, datblygu polisi, neu gyflwyno strategaethau ar draws sawl ysgol neu sector
- y gallu i ysbrydoli, dylanwadu ac arwain penaethiaid ac ysgolion i wella darpariaeth Gymraeg a dwyieithog
- sgiliau cryf o ran dadansoddi data, cynllunio gweithredol, a chynhyrchu adroddiadau effaith
- dealltwriaeth ddofn a chadarn o Ddeddf Iaith Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, ynghyd â'i goblygiadau strategol, gweithredol a chydymffurfiol ar yr awdurdod lleol ac ar ysgolion
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â phrofiad ymgynghorol, profiad arwain ar lefel awdurdod lleol, rhanbarthol neu genedlaethol, neu'r gallu profedig i lywio newid strategol mewn addysg Gymraeg a dwyieithog.
Am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â Chris Newcombe ( CJNewcombe@sirgar.gov.uk )
Disgrifiad Swydd:
Job Profile Senior WESP Adviser Feb 2026 CN3.0.pdf - 291KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
27 Mawrth 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 20/03/2026, 12:00
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.