MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £20,158 - £31,158 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch 0.6

Coleg Sir Gar

Cyflog: £20,158 - £31,158 / blwyddyn

Darlithydd Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch 0.6
Application Deadline: 3 April 2026

Department: Arlwyo a Lletygarwch

Employment Type: Parhaol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Deon Cyfadran a Phennaeth Cwricwlwm

Compensation: £20,158 - £31,158 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn awyddus i benodi Darlithydd Prentisiaethau Iau (0.6) ysbrydoledig ac ymroddedig mewn Arlwyo a Lletygarwch i ymuno â'n tîm Prentisiaethau Iau ar Gampws Pibwrlwyd.

Dyma gyfle cyffrous i gyflwyno addysgu galwedigaethol o ansawdd uchel i ddysgwyr 14-16 oed o fewn amgylchedd Coleg strwythuredig a chefnogol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio llwybrau dysgwyr ifanc ar gyfer y dyfodol, gan gefnogi eu dilyniant i brentisiaethau, addysg bellach neu gyflogaeth.

Ynglŷn â'r Rôl


Fel Darlithydd Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch, byddwch yn cyflwyno addysgu galwedigaethol deniadol, sy'n briodol i oedran, i garfannau bach o ddysgwyr, fel arfer hyd at bymtheg o fyfyrwyr.

Mae'r ddarpariaeth arbenigol 14-16 hon yn gweithredu o fewn fframwaith addysg orfodol. Mae dysgwyr yn aros ar gofrestr eu hysgol gartref ac yn mynychu'r Coleg fel rhan o raglen statudol. O'r herwydd, mae'r rôl hon yn wahanol i ddarpariaeth AB ôl-16 safonol ac mae'n dwyn cyfrifoldebau ychwanegol mewn perthynas â diogelu, ymddygiad, presenoldeb ac ymgysylltiad.

Mae'r rôl yn cyfuno addysgu o ansawdd uchel, asesu trylwyr, gweithio mewn partneriaeth gadarn ac ymrwymiad i ddilyniant dysgwyr ac ymarfer dwyieithog.

Cyfrifoldebau AllweddolByddwch yn gyfrifol am y canlynol:
  • Cyflwyno ac asesu cymhwyster galwedigaethol Lefel Mynediad 3 / Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo
  • Cynllunio gwersi diddorol, strwythuredig sy'n hyrwyddo presenoldeb ac ymddygiad cadarnhaol
  • Paratoi deunyddiau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel
  • Tracio cynnydd dysgwyr a chyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd
  • Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ac ymddygiadau proffesiynol i'r addysgu
  • Sicrhau bod pob gweithgaredd ymarferol yn bodloni safonau iechyd, diogelwch a diogelu
  • Cyfathrebu'n rhagweithiol ag ysgolion, rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd dysgwyr
  • Trefnu ymweliadau addysgol yn unol â pholisi'r Coleg
  • Cefnogi'r gwaith o gynllunio dilyniant i brentisiaethau, astudiaeth bellach neu gyflogaeth
  • Cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm, gwella ansawdd a dangosyddion perfformiad allweddol
  • Hyrwyddo dwyieithrwydd a defnydd gweladwy o'r Gymraeg wrth addysgu a dysgu

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.


Hanfodol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster Addysg Uwch/Lefel Uwch cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
  • Profiad o addysgu dysgwyr 14-16
  • Profiad o addysgu a dysgu galwedigaethol neu seiliedig ar waith
  • Dealltwriaeth o ddarpariaeth 14-16
  • Gwybodaeth a phrofiad o weithio gyda dysgwyr ag anghenion ymddygiadol neu ymgysylltiol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
  • Y gallu i deithio ar draws campysau
  • Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant Prentisiaethau Iau,Hyfforddiant diogelu a rheoli ymddygiadpenodol ar gyfer dysgwyr 14-16
Dymunol
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Y gallu i deithio ar draws campysau
  • Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsio

Buddion
  • Byddwch yn cael 27.6 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 40.6 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein