MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £29,828 - £32,367 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Anogwr Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch

Coleg Sir Gar

Cyflog: £29,828 - £32,367 / blwyddyn

Anogwr Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch
Application Deadline: 2 June 2026

Department: Arlwyo a Lletygarwch

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm / Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles

Compensation: £29,828 - £32,367 / blwyddyn

DescriptionMae'r rôl hon yn ystod y tymor + 3 wythnos.

Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gyfle cyffrous i Anogwr Prentisiaethau Iau mewn Arlwyo a Lletygarwch ymuno â'n tîm Prentisiaethau Iau ymroddedig ar Gampws Pibwrlwyd.

Mae'r rôl werth chweil hon yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl ifanc 14-16 oed sy'n mynychu'r Coleg fel rhan o'u rhaglen addysg statudol. Fel aelod allweddol o'r tîm, byddwch yn darparu gofal bugeiliol, arweiniad a mentora o ansawdd uchel, gan alluogi dysgwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chael canlyniadau llwyddiannus.

Mae ein colegau'n ymrwymedig i greadigrwydd, arloesedd a rhagoriaeth. Gan weithio o fewn y timau Profiad Dysgwyr a Chwricwlwm, byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel, strwythuredig a chefnogol lle gall dysgwyr ifanc ffynnu fel unigolion ac yn academaidd.

Ynglŷn â'r Rôl


Fel Anogwr Prentisiaethau Iau, byddwch yn darparu cefnogaeth fugeiliol pwrpasol a chefnogaeth yn y dosbarth i ddysgwyr ar y Rhaglen Prentisiaethau Iau mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

Mae hon yn rôl arbenigolo fewn fframwaith addysg orfodol. Mae dysgwyr yn aros ar gofrestr eu hysgol gartref ac yn mynychu'r Coleg fel rhan o raglen statudol. Mae'r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau cynyddol mewn perthynas â diogelu, presenoldeb, rheoli ymddygiad ac ymgysylltiad dysgwyr.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda staff y cwricwlwm, y Darlithydd Prentisiaethau Iau, ysgolion, rhieni/gwarcheidwaid a'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth gydlynol a chyfannol. Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn ymyrraeth gynnar, monitro presenoldeb, rheoli ymddygiad cadarnhaol, datblygiad personol a chynllunio ar gyfer y cyfnod pontio.

Cyfrifoldebau AllweddolByddwch yn gyfrifol am y canlynol:
  • Darparu mentora un-i-un, adolygiadau cynnydd bob hanner tymor a sesiynau gosod targedau
  • Cyflwyno sesiynau datblygiad personol a thiwtorial i'r grwpiau o Brentisiaid Iau
  • Cefnogi dysgwyr yn y dosbarth i gael mynediad at y cwricwlwm ac ymgysylltu'n gadarnhaol â dysgu
  • Monitro presenoldeb a rhoi strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol ar waith
  • Cadw cofnodion manwl o ran ymyriadau, cynnydd a chanlyniadau
  • Gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, ysgolion ac asiantaethau allanol
  • Cefnogi prosesau diogelu yn unol â pholisi'r Coleg
  • Adnabod a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl, gan weithredu strategaethau ymyrraeth gynnar
  • Goruchwylio dysgwyr yn ystod cyfnodau rhydd er mwyn sicrhau diogelwch a lles
  • Cefnogi trefniadau lleoliadau gwaith, gan gynnwys asesiadau risg a monitro
  • Cyfrannu at weithgareddau llais y dysgwr a chyflawni dangosyddion perfformiad allweddol
  • Gweithio ar y cyd â'r timau cwricwlwm a lles i wella profiad y dysgwr

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Gradd neu gyfwerth
  • Cymwysterau perthnasol ar Lefel 3 neu uwch
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy'n Ystyriol o Drawma
  • Cyfathrebwr da
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol
  • Cymwyster TAR
  • Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
  • Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol ar gyfer pobl ifanc
  • Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
  • Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
  • Y gallu i deithio ar draws campysau
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein