MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), sydd ill dau yn darparu cymwysterau Peirianneg.

Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser brwdfrydig i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; sydd â phrofiad mewn meysydd cysylltiedig a pheirianneg megis dylunio cynnyrch / dylunio a thechnoleg / ffiseg / STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), a'i uwchsgilio o fewn y Coleg. Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sy'n trosglwyddo o ddiwydiant neu o addysgu CA4/5, neu o unrhyw gefndir proffesiynol addas arall. Mae gennym dîm profiadol a medrus iawn o ddarlithwyr peirianneg, ac rydym yn chwilio am ymgeisydd y bydd ei wybodaeth a'i arbenigedd yn ategu'r tîm ac yn ychwanegu gwerth pellach iddo. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cymwysterau 'Pearson BTEC National' a'r 'Extended Diploma' Lefel 3 fel rhaglen ddwy flynedd, ynghyd â chymhwyster 'Pearson HNC' Lefel 4 mewn Peirianneg Gyffredinol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o addysgu a dysgu, a chynnig cefnogaeth barhaus, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau er mwyn cynnig y profiad gorau i ddysgwyr, ac i helpu symud yr adran yn ei blaen.

Mae'r swydd yma wedi ei lleoli ym Mhwllheli gyda hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos yn Nolgellau.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/156/26

Cyflog
£33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
20 Maw 2026
12:00 YH(Ganol dydd)