MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn addysgu ar draws Lefelau 2 a 3 (cyfwerth â Lefel AS/Lefel A). Mae'n debyg y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer addysgu ar ein rhaglenni lefel Gradd (Lefelau 4, 5 a 6), a ddysgir yn ystod y dydd a gyda'r nos ar ddydd Mawrth/Iau, yn amodol are u hargaeledd.Croesewir ceisiadau'n arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth gyffelyb a fyddai'n gofyn am ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth a pholisïau yn y sector Gofal Iechyd.
Bydd y rôl yn caniatáu i chi ddod â'ch arbenigedd sector presennol a chael eich cefnogi i ddatblygu fel darlithydd Addysg Bellach, gyda chanllawiau a chefnogaeth tîm o Arweinwyr Rhaglenni, Cydlynwyr a Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth o fewn yr adran.
Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd deniadol ar gyfer ein dysgwyr, ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o methodolegau dysgu a dysgu rhyngweithiol, I ymgysylltu a chynnwys dysgwyr, gan ddod â'r dysgu'n fyw.
Byddwch yn gallu rhannu gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau o fewn yr addysgu a'r dysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad manwl o ddyletswyddau, heriau, llawenydd a gwobrau dilyn gyrfa mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallai'r swydd hon gynnwys arweinyddiaeth rhaglen ddysgu, felly, byddem yn chwilio am unigolyn hyderus, trefnus, cefnogol a brwdfrydig sy'n barod i gymryd cyfrifoldeb am y ddarpariaeth y gallent ei harwain.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd er mwyn gallu parhau i weithio'n ymarferol yn ochr yn ychr â chymryd swydd addysgu.
Noder os gwelwch yn dda - Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau eu gyflogaeth yn y flwyddyn academaidd newydd, Awst 2026.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/155/26
Cyflog
£33,595.87- £51,931.55 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn o wyliau.
Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos.
835 awr o oriau addysgu blynyddol - 24 i 26 o oriau addysgu bob wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o "weithio oddi ar y safle" i'w gytuno â Rheolwr y Rhaglen
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
20 Maw 2026
12:00 YH(Ganol dydd)