MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Heb ei ddarparu
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Llywodraethwr Annibynnol
Application Deadline: 30 April 2026
Department: Fwrdd Llywodraethwyr
Employment Type: Gwirfoddolwr
Location: Campws Graig
DescriptionHoffech chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a lles ehangach y cymunedau?
Mae cyfle diddorol a chyffrous yn eich aros ar Fwrdd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion.
Mae'r Bwrdd Llywodraethwyr yn ceisio penodi nifer o aelodau annibynnol newydd, ac aelodau cyfetholedig i Is-bwyllgor Archwilio a Rheoli Risg y Bwrdd.
Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau oddi wrth y rheiny â chefndir cyfrifeg ac archwilio; cydraddoldeb ac amrywiaeth; yn ogystal â meysydd allweddol eraill a restrir ym manyleb yr unigolyn.
Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella amrywiaeth y Bwrdd ac i lwyddo i gael aelodaeth sy'n adlewyrchu proffil y Coleg a'i ddysgwyr. Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr o bob oed a chefndir. Rydym yn benodol yn annog ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig. Rydym yn croesawu amrywiol bersbectifau ac yn awyddus i ddatblygu amrywiaeth y bwrdd.
Yn ogystal, cesglir gwybodaeth monitro cydraddoldeb drwy'r broses hon.
Y dyddiad cau yw 30 Ebrill 2026.
Gellir cyfeirio ymholiadau anffurfiol at Damion Gee, Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i'r Bwrdd yn governance@colegsirgar.ac.uk
Manyleb Yr UnigolynDisgwylir i bob aelod annibynnol allu dangos y canlynol:

- Dealltwriaeth o Egwyddorion Nolan a pharodrwydd i gadw atynt.
- Ymrwymiad a brwdfrydedd ynghylch cenhadaeth a gwerthoedd y Coleg, ei ymdrech i gyflawni rhagoriaeth, ei genhadaeth ddinesig a'i uchelgeisiau strategol yng Nghymru a thu hwnt.
- Gwerthfawrogiad o'r gwerth a ddaw'r Coleg i'w gymunedau yng Nghymru.
- Gallu i gyfrannu at wella profiad myfyrwyr y Coleg a'u cyflogadwyedd.
- Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Ymrwymiad i natur ddwyieithog y Coleg ac i wella iaith a diwylliant Cymru.
- Gonestrwydd, barn gadarn a meddwl ymchwilgar.
- Y gallu i feddwl yn strategol, gwneud penderfyniadau rhesymegol, dadansoddi gwybodaeth ac yna herio'n adeiladol fel ffrind critigol, gan gynnig cyngor call a doeth.
- Y gallu i gefnogi a gweithio'n effeithiol gydag aelodau eraill y corff llywodraethu ac uwch swyddogion y sefydliad.
- Sgiliau cyfathrebu da.
- Bod ar gael i baratoi ar gyfer cyfarfodydd y corff llywodraethu a phwyllgorau a bod yn bresennol ynddynt.
- Ymrwymiad i gymryd rhan yng ngwaith ehangach y Coleg trwy fynychu digwyddiadau priodol.
- Gallu a pharodrwydd i hyrwyddo'r Coleg yn y gymuned ehangach.
- Addysg bellach ac/neu uwch.
- Cynllunio strategol; busnes a chyllid; marchnata;
- Cyfrifeg, archwilio a risg;
- Taliadau; pensiynau;
- Entrepreneuriaeth; codi arian;
- Ystadau a datblygu eiddo;
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- Materion cyfreithiol a rheoliadol;
- Adnoddau dynol;
- Y Gymraeg a dwyieithrwydd:
- Cenhadaeth ddinesig a chysylltiadau allanol