MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £27,459 - £30,722
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technewgydd TG/Rhwydwaith

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £27,459 - £30,722

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2925

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad:

Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Gradd E +4%

Cyflog:

£27,459 - £30,722

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£14.23 - £15.92

Oriau Contract:

37

Dewch i ymuno â'n tîm

Yn ofynnol cyn gynted â phosibl, rydym yn dymuno penodi Technegydd TGCh/Rhwydwaith hynod frwdfrydig a chymwysedig i gefnogi ein hysgol uwchradd brysur ac arloesol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod seilwaith TGCh a systemau rhwydwaith yr ysgol yn gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan gefnogi addysgu, dysgu a gweinyddiaeth ar draws cymuned gyfan yr ysgol. Gan weithio'n agos gyda'r uwch arweinwyr, bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad parhaus strategaeth TGCh yr ysgol, gan sicrhau bod ein systemau'n ddiogel, yn arloesol ac yn addas i'r diben mewn tirwedd ddigidol sy'n datblygu'n barhaus.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â theulu ysgol ffyniannus a chefnogol lle mae cydweithio a datblygiad proffesiynol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Rydym yn ymroddedig i ddarparu profiadau heriol ac ymgysylltiol i bob disgybl, ac rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n angerddol am dechnoleg a'i photensial i gyfoethogi dysgu. Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth dechnegol ragorol, sgiliau datrys problemau cryf, a'r gallu i ddarparu cymorth ymatebol o ansawdd uchel i staff a disgyblion. Mae dull rhagweithiol, sgiliau cyfathrebu clir ac ymrwymiad i welliant parhaus yn hanfodol.

Wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin, tref farchnad fywiog ar gyrion Dyffryn prydferth Tywi ac ond 30 munud o Abertawe, mae ein hysgol gyfun arloesol yn ymgorffori ysbryd 'Gofalu, Dysgu, Arwain'. Rydym ar flaen y gad o ran rhagoriaeth addysgol, gan feithrin amgylchedd cefnogol lle mae disgyblion yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol. Drwy feithrin diwylliant o ofal, dysgu parhaus ac arweinyddiaeth weledigaethol, rydym yn falch o baratoi ein pobl ifanc ar gyfer dyfodol llwyddiannus mewn byd digidol sy'n datblygu'n gyflym.

Os ydych yn awyddus i wneud effaith sylweddol o fewn cymuned ysgol ddeinamig a helpu i lunio dyfodol dysgu digidol, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Rheolwr Busnes yr Ysgol, Nigel Cooke: nigel.cooke@qehs.carms.sch.uk

Disgrifiad Swydd:

035607.pdf - 295KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 19/03/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.