MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Gwyddoniaeth a Chyfrifoldeb (Cemeg) - Ysgol Bro Dinefwr

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2899

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llandeilo

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

32.5

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Gwyddoniaeth (Cemeg) gyda Chyfrifoldeb deinamig,sydd a chymhelliant uchael ag sy'n fedrus, i ymuno â'n Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at dwf ac arloesedd parhaus addysg Gwyddoniaeth mewn ysgol flaengar sy'n ymrwymedig i ethos y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi addysgu o ansawdd uchel, ysgogi gwelliant, a chyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm o fewn y MDaPh Gwyddoniaeth.

Bydd yr athro gyda chyfrifoldeb yn gallu:
  • Arwain ar feysydd penodol o'r cwricwlwm Gwyddoniaeth (e.e. cynlluniau dysgu, deunyddiau asesu).
  • Cefnogi cydweithwyr drwy fodelu addysgeg ragorol a rhannu arfer gorau.
  • Monitro cynnydd dysgwyr mewn meysydd penodol gan ddefnyddio data i nodi meysydd i wella.
  • Cyfrannu at hunanarfarnu adran ac at weithgareddau datblygiad proffesiynol.
  • Cynorthwyo Pennaeth y MDaPh gyda chynllunio strategol ac arloesi'r cwricwlwm.

Rydym yn chwilio am athro sy'n cyfuno arfer ystafell ddosbarth rhagorol gyda'r gallu i arwain datblygiad, a brwdfrydedd cryf dros addysg Gwyddoniaeth, yn enwedig mewn Cemeg. Byddwch yn gallu cefnogi gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dysgu o ansawdd uchel, cyfrannu'n gadarnhaol at waith y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a chwarae rôl weithredol ym mywyd ac ethos ehangach yr ysgol. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol, a rhoddir hyfforddiant pwrpasol i gefnogi eich datblygiad yn unol â'n hamcanion strategol, os oes angen.

Dull Penodi
Bydd y penodiad yn cael ei wneud drwy gyfweliad yn seiliedig ar gymhwysedd a gwers arsylwi.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr Richard Mears, Rheolwr Busnes, ar richard.mears@brodinefwr.org.uk.

Os ydych yn frwdfrydig am arwain addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gwneud effaith barhaol ar brofiadau dysgwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Disgrifiad Swydd:

Athro Gwyddoniaeth a Chyfrifoldeb (Cemeg) - Science Teaher with Responsibility (Chemistry).pdf - 4366KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 09/03/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.