MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Teacher Pay Scale + ALN (1)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes - Celfyddydau Mynegiannol - Cyflawni am Oes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Teacher Pay Scale + ALN (1)
32.5 awr yr wythnosMae Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio Darpariaeth Amgen y Bont yn ddarpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran cynradd ac uwchradd sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae'r Bont yn ceisio penodi athro/athrawes y celfyddydau mynegiannol sy'n brofiadol ac yn frwdfrydig i weithio ar draws ein darpariaethau CA3 a CA4. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd arwain ar gynllunio a chyflwyno MDPh y celfyddydau mynegiannol a goruchwylio a hyrwyddo cyfleoedd i ddisgyblion gyflawni achrediad cydnabyddedig, a allai gynnwys cymwysterau galwedigaethol cyffredinol a chymwysterau seiliedig ar sgiliau. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyderus wrth gefnogi'r gwaith o ddarparu sgiliau trawsgwricwlaidd Llythrennedd, Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 15 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person