MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coety Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £3,530 per annum
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Coety (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £3,530 per annum
6.25 awr yr wythnosYn ystod tymor yr ysgol
2 x swydd dros dro ar gael hyd at 31 Mawrth 2027.
Mae Ysgol Gynradd Coety yn ceisio penodi dau Gynorthwyydd Goruchwylio Amser Cinio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 12:00pm a 1:15pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant yn ddiogel ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da, datblygu iaith a chwarae cadarnhaol ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant a hyfforddiant cymorth cyntaf.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 27 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person