MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cwmfelin Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Leadership Scale L(13) £70,814 - L(19) £82,067 per annum
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwmfelin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Leadership Scale L(13) £70,814 - L(19) £82,067 per annum
32.5 awr yr wythnosMae Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi'i lleoli yng Nghwm Llynfi. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 190 o blant ar y gofrestr.
Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol ichi roi arweiniad i'r ysgol er mwyn cynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad a llesiant tra'n cadw'r ethos a chynwysoldeb cryf.
A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person