MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Corneli Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £23,721-£24,518 per annum
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch SCD - Hyrwyddwr Llesiant a Chymuned - Ysgol Gynradd Corneli (Dros dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £23,721-£24,518 per annum
32.5 awr yr wythnosDros dro am hyd at 12 mis
Tymor yr Ysgol
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Corneli wrth ei fodd o gyhoeddi cyfle cyffrous newydd; Hyrwyddwr Llesiant a Chymuned.
Bydd y rôl unigryw hon yn rhychwantu Ysgolion Cynradd Corneli ac Afon y Felin, y mae disgwyl iddynt uno yn un gymuned ddysgu fywiog yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Ar hyn o bryd mae ein hysgolion wedi'u lleoli ychydig funudau ar wahân, ac maent yn paratoi ar gyfer dyfodol cyffrous wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr adeiladu ysgol newydd sbon, o'r flaenaf yng nghanol ystad Marlas.
A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd? A oes gennych yr ymrwymiad a'r angerdd i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion a theuluoedd y ddwy ysgol?
Mae ein hysgolion wrth galon cymuned amrywiol a chefnogol. Rydym yn credu bod partneriaethau cryf rhwng y cartref a'r ysgol yn allweddol i ddatgloi potensial pob plentyn a dyna fydd eich rôl chi.
Fel ein Hyrwyddwr Llesiant a Chymuned, byddwch yn:
- Adeiladu perthnasoedd ystyrlon gyda theuluoedd a staff.
- Grymuso rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu a llesiant eu plant.
- Meithrin ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant ar draws ein cymuned ysgol.
Byddwch yn ymuno â thîm blaengar sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cynhwysiant, a rhagoriaeth. Bydd pob dydd yn dod â chyfleoedd i ysbrydoli, cysylltu, a chyfrannu at ddiwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Os ydych yn frwdfrydig, yn hawdd mynd atoch, ac yn barod i hyrwyddo partneriaethau rhwng y cartref a'r ysgol mewn lleoliad addysgol dynamig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Rydym yn cynnig ysgol hapus, greadigol a chynhwysol lle rydym yn gwerthfawrogi ein holl ddysgwyr a gweithio i sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 16 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person