MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Cylch Chwarae Dechrau’n Deg - Ysgol Gynradd San Marc

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022

Arweinydd Cylch Chwarae Dechrau'n Deg - Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc

Gradd 6 - £28,142 am 12.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig, sef am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £8,351.37 pro rata.

Mae corff llywodraethu a phennaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc am benodi Arweinydd Dechrau'n Deg i oruchwylio darpariaeth gofal ac addysg Dechrau'n Deg i blant rhwng dwy a thair blwydd oed yn ein Canolfan Dechrau'n Deg ar safle ysgol San Marc (Llewod Bach San Marc).

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol, gwybodus a llawn cymhelliant ddod yn arweinydd newydd ar ein lleoliad Dechrau'n Deg, sy'n gwasanaethu hyd at 26 o blant yn ein cymuned rhwng dwy a thair blwydd oed. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r pennaeth a'r corff llywodraethu i sefydlu lleoliad Dechrau'n Deg rhagorol. Bydd hyn yn dilyn arferion gorau drwy safonau Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae'n gyfle i rywun arwain y gwaith o greu tîm hynod frwdfrydig a gwybodus sy'n rhoi plant yn gyntaf.

Mae profiad o weithio mewn lleoliad Dechrau'n Deg yn ddymunol, yn ogystal â'r gallu i arwain tîm. Dylai fod gennych hefyd ddealltwriaeth gadarn o rôl Arolygiaeth Gofal Cymru a'i rheoliadau sy'n ymwneud â darpariaeth Dechrau'n Deg.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Ddiploma Lefel 5 mewn Gofal Plant ac Addysg neu gymhwyster cyfwerth. Dylech feddu ar hyfforddiant cyfredol mewn Diogelu, Diogelwch Bwyd, a Chymorth Cyntaf Pediatrig, ond, nid yw hyn yn hanfodol a gellir rhoi hyfforddiant llawn.

Mae'r swydd hon o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn 12.5 awr yr wythnos i ddechrau, ond y nod yw ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys gofal cofleidiol yn y prynhawn cyn gynted â phosibl unwaith y bydd ein sesiynau bore Dechrau'n Deg wedi'u sefydlu.

Os hoffech drafod y rôl hon neu ymweld âr lleoliad cyn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu âr pennaeth (Miss Sharon Gillespie) ar 01437 767623.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.