MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ysgol Gyfun Y Strade

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2880

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L30 - £107,442

Cyflog i:

L36 - £124,446

Oriau Contract:

Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Ysgol Gyfun Y Strade yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg flaengar, uchelgeisiol ac uchel ei pharch ac fe'i lleolir yng nghalon cymuned Llanelli. Gyda bron i 1,300 o ddysgwyr (a disgwylir i'r nifer gyrraedd 1,400 erbyn Medi 2027) rhwng 11-18 oed a Chweched Dosbarth bywiog, mae'r ysgol dros gyfnod wedi chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel gan gyfrannu'n sylweddol at fywyd diwylliannol yr ardal.

Rydym yn chwilio am Bennaeth ysbrydoledig, ymrwymedig ac egniol a all adeiladu ar sail lwyddiannus bresennol yr ysgol a'i harwain gyda hyder i'r dyfodol.

Mae Ysgol Gyfun Y Strade yn ymfalchïo yn ei safonau academaidd a galwedigaethol rhagorol ynghyd â'r cyfleoedd allgyrsiol cyfoethog, ei hethos gynnes, holistaidd a chynhwysol lle rhoddir pwyslais ar werthfawrogi lles, cydweithredu a pharch. Mae'r ysgol yn flaenllaw iawn wrth ddatblygu a gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru, ac yn cynnig cyfleoedd eithriadol i ddysgwyr ffynnu, boed hynny ar lwyfan yr eisteddfod, mewn cystadlaethau chwaraeon, drwy'r celfyddydau perfformio neu mewn prosiectau cymunedol.

Mae'r Corff Llywodraethol yn chwilio am Bennaeth sy'n:
  • arweinydd profiadol i hyrwyddo addysg gynhwysol ac i sicrhau cynnydd cryf i bob dysgwr
  • angerddol dros addysg Gymraeg ac yn ymrwymedig i gryfhau ethos a hunaniaeth ddiwylliannol Gymraeg a Chymreig yr ysgol ymhellach
  • flaengar wrth arwain y cyfleoedd a gynigir gan y Ganolfan Iaith newydd i wella caffael iaith, cryfhau ymgysylltiad â'r gymuned, a chefnogi a hyrwyddo gweledigaeth addysg Gymraeg hirdymor yr ysgol
  • meddu ar y weledigaeth, y creadigrwydd a'r ysgogiad i arloesi a chreu amgylchedd dysgu ysbrydoledig, sy'n edrych i'r dyfodol
  • gallu datblygu potensial disgyblion a staff ac adeiladu ar lwyddiannau niferus yr ysgol
  • ymrwymedig i sicrhau cyflawniadau academaidd a galwedigaethol uchel, ynghyd â lles pob dysgwr
  • gallu ysbrydoli, cymell ac ymgysylltu â staff, disgyblion, teuluoedd a'r gymuned ehangach
  • gyfathrebwr rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg

Yr hyn a gynigiwn:
  • Tîm staff hynod ymroddedig a Chorff Llywodraethol cefnogol
  • Cymuned ysgol fywiog sy'n gwerthfawrogi cydweithio, uchelgais a chynhwysiant
  • Dysgwyr balch o'u hysgol ac yn uchelgeisiol am eu dyfodol
  • Amgylchedd sy'n annog addysgu arloesol, dysgu proffesiynol a phartneriaethau cryf ar draws y sector

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS).

Llinell Amser y Cais:

Dyddiad cau: Dydd Llun, 9 Mawrth 2026, am hanner dydd

Rhestr fer: Dydd Mercher, 11 Mawrth 2026

Cyfweliadau: Dydd Mercher a Dydd Iau, 25 & 26 Mawrth 2026

Dyddiad cychwyn: Medi 2026

Rydym yn annog yn gynnes i ymgeiswyr darpar drefnu ymweliad â'r ysgol neu ofyn am sgwrs anffurfiol am y rôl. Cysylltwch â Rheolwr Busnes yr Ysgol ar 01554 745100 neu Bethan.Morris@ysgolystrade.org i wneud trefniadau.

Disgrifiad Swydd:

26-02-13 - Pecyn Recriwtio Pennaeth - Strade (006581).pdf - 1019KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

25 Mawrth 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 09/03/2026, 12:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.