MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.85 per hour
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol Wrth Gefn - Lleoliadau Amrywiol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12.85 per hour
Yn ôl yr angenYn ystod tymor yr ysgol
Gan ddarparu prydau i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i 56 o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo amrywiaeth o gyfleoedd i chi weithio fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ar draws eu gwasanaeth a hoffent glywed gennych.
Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn y lleoliadau isod:
Lleoliadau Amrywiol
Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel, glân i ddisgyblion a staff. Bydd yn ofynnol i chi osod byrddau a chadeiriau bwyta ac, mewn rhai ysgolion, gall fod yn ofynnol gweithredu terfynell sgrin gyffwrdd - rhoddir hyfforddiant wrth ddechrau.
Mae cwmpasu ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn un o ofynion y rôl yn ogystal â chael Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Dau; darperir hyfforddiant os bydd angen i'ch helpu i gyflawni hyn.
Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cadarnhau ar ôl penodi ond byddant rhwng 10.00am a 2.30pm, i gefnogi'r cyfnodau egwyl canol bore ac amser cinio, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Ceri Acaster ar 01656 815964 a fydd yn croesawu eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person