MANYLION.
  • Lleoliad: Garth Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £7,637per annum
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Garth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £7,637per annum

12.5 awr yr wythnos

Amser Tymor

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd cogydd cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Llidiart yn cefnogi'r cogydd i baratoi prydau ysgol gynradd am ddim i bawb a rheoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 12 Mawrth 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 23 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person