MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ystrad Mynach,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £38,136.00 - £40,662.00 (Pro rata CALl)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £38,136.00 - £40,662.00 (Pro rata CALl)
Cydlynydd Menter, Sgiliau a ChyflogadwyeddSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Bydd deiliad y swydd yn rhan o Dîm y Dyfodol sy'n cefnogi entrepreneuriaeth, cyflogadwyedd, sgiliau a cheisiadau'r Gwasanaeth Derbyniadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS). Mae'r rôl yn cynnwys cydlynu a chefnogi dysgwyr gyda'r sgiliau menter sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a datblygiad gyrfa llwyddiannus. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau menter dysgwyr yn cael eu cydnabod drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau mewnol ac allanol.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk