MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £27,060 - £51,963 (Cyflog wedi'i asesu)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £27,060 - £51,963 (Cyflog wedi'i asesu)
Darlithydd Llunio GwisgoeddSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Darlithydd, byddwch yn addysgu ar y cwrs gradd BA (Anrh) Llunio Gwisgoedd ac ar amrywiaeth o lefelau fel y cytunwyd gyda'ch rheolwr llinell ac arweinydd y cwrs. Byddwch yn cefnogi dysgwyr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus gan weithio tuag at safon y diwydiant ac yn addysgu amrywiaeth o wahanol sgiliau o dorri patrymau cyfnod, sgiliau ffitio hyd at dechnegau gorffennu gwisgoedd. Yn ogystal, byddech yn cefnogi myfyrwyr gyda sgiliau ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau llafar. Byddech yn gosod disgwyliadau uchel i ddysgwyr ac yn cyfrannu at amgylchedd sy'n annog pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol.
GwybodaethBellach:
Maeangeni staffa gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymrydagunrhyw ddyletswyddaurhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir ygall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fero blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Colegy Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar osbydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac. uk