MANYLION.
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £21,565 per annum
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Gweinyddol - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £21,565 per annum

37 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tremains yn ceisio penodi Cynorthwyydd Gweinyddol cyfeillgar, trefnus a dibynadwy i ymuno â'n tîm swyddfa ysgol gynradd prysur.

Mae hon yn rôl allweddol wrth wraidd yr ysgol, gan ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf croesawgar i ddisgyblion, rhieni, staff ac ymwelwyr.

Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

Darparu cymorth derbynfa blaen y tŷ, gan gynnwys ateb ffonau a chyfarch ymwelwyr

Ymdrin â gohebiaeth, negeseuon e-bost ac ymholiadau arferol

Cymryd cofnodion a theipio adroddiadau a dogfennau cyfrinachol amrywiol

Cefnogi presenoldeb, derbyniadau a gweinyddu swyddfa cyffredinol

Cynorthwyo'r tîm ysgol ehangach â thasgau gweinyddol o ddydd i ddydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych

Meddu ar brofiad blaenorol mewn amgylchedd ysgol. Fodd bynnag, mae hyn yn ddymunol ond nid yn hanfodol, oherwydd darperir hyfforddiant

Bod yn rhifog

Bod yn drefnus, yn effeithlon ac yn gallu rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu âi gilydd

Yn hyderus wrth ddefnyddio systemau TG (e.e. Microsoft Office)

Gweithio'n dda fel rhan o dîm a defnyddio menter pan fo angen

Dull tawel, proffesiynol a chyfeillgar i blant

Dull hyblyg o weithio

Byddai rhywfaint o wybodaeth am y pecyn SIMS yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura, ac yn meddu ar sgiliau prosesu geiriau a rhifedd gwych. Mae'r gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn yn un o'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 2 Mawrth 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 6 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person