MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nantyffyllon Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: ISR 15-21* £74,384 - £85,329 per annum
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Nantyffyllon
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: ISR 15-21* £74,384 - £85,329 per annum
Mae Ysgol Gynradd Nantyffyllon wedi'i lleoli ym Maesteg, ac mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 198 o blant ar y gofrestr.Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol ichi roi arweiniad i'r ysgol er mwyn cynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad a llesiant tra'n cadw'r ethos a chynwysoldeb cryf.
A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.
Gwahoddir ymgeiswyr i fynychu taith o amgylch yr ysgol ddydd Mawrth 20 Ionawr am 16:45. Os hoffech fynychu, cysylltwch â Mrs Nicola Treasure ar 01656 815740 neu admin@nantyffyllonps@bridgend.cymru
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 05 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 18 & 19 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person