MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cyfreithiol,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £33,596 - £51,932
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,596 - £51,932
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Nyrsio Milfeddygol
Location: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser (0.4 FTE) 14.8 awr yr wythnos
Pro Rata Cyflog: M1 £13,438.40 - UP3 £20,772.80 (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)
Ydych chi'n Nyrs Filfeddygol Gofrestredig angerddol a gwybodus gydag awydd i addysgu ac ysbrydoli? Ymunwch â ni yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain, fel Darlithydd Nyrsio Milfeddygol a chymerwch y cyfle i gael effaith sylweddol ar ddyfodol addysg nyrsio milfeddygol.
Fel Darlithydd Nyrsio Milfeddygol, bydd gennych chi ystod o gyfrifoldebau i sicrhau profiad dysgu cynhwysfawr i fyfyrwyr Lefel 2 a 3. Byddwch yn cyflwyno sesiynau addysgu cyfareddol ac addysgiadol, gan ddefnyddio eich arbenigedd i ennyn diddordeb ac ysbrydoli myfyrwyr. Bydd eich swydd yn cynnwys paratoi deunydd dysgu a marcio gwaith myfyrwyr yn fanwl i ddarparu adborth gwerthfawr ac olrhain eu cynnydd.
Fel addysgwr ymroddedig, byddwch yn cadw at systemau ansawdd i wella cyfraddau cadw, recriwtio a chyflawniad myfyrwyr yn barhaus. Gan gymryd rhan weithredol yng ngweithdrefnau hunanasesu'r coleg, arolygiadau allanol, a gweithgareddau gwirio, byddwch yn cyfrannu at gynnal a gwella safonau addysgol y sefydliad.
Mae monitro a gwerthuso yn agweddau hanfodol ar eich swydd. Byddwch yn asesu effeithiolrwydd sesiynau dysgu ac yn cymryd rhan mewn arsylwadau addysgu, gan sicrhau y cyflwynir addysg o ansawdd uchel sy'n bodloni anghenion dysgu amrywiol myfyrwyr.
Ymunwch â ni yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain, a dewch yn rhan annatod o'n cenhadaeth i ddarparu addysg nyrsio milfeddygol eithriadol. Trwy eich ymroddiad a'ch arbenigedd, byddwch yn grymuso ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr nyrsio milfeddygol proffesiynol, gan lunio dyfodol mwy disglair i'r maes.
Rhaid i unrhyw ymgeisydd llwyddiannus heb gymhwyster addysgu hefyd fod yn fodlon cwblhau TAR a fyddai'n cael ei ariannu gan y coleg, sef un diwrnod yr wythnos dros 2 flynedd, gan ddechrau o fis Medi.
Gofynion Hanfodol
- Nyrs milfeddygol cofrestredig (RVN)
- Cymwys i Lefel 3 mean nyrsio milfeddygol o leiaf
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407) neu'n barod i weithio tuag at hynny
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i'w cefnogi mewn amgylchedd dysgu
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig