MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (CAD) - Ysgol Gymunedol Neyland
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Lefel un) - Canolfan Adnoddau Dysgu CynraddSwydd barhaol amser llawn (33 awr yn ystod y tymor)
O fis Ebrill 2026 neu'n gynt, os yn bosibl
Gradd 3 - £24,796.00 am 33 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £19,426.22 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £19,850.37 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Neyland yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu profiadol i weithio yng Nghanolfan Adnoddau Dysgu ein hysgol gynradd.
Rydym yn llawn cyffro i fod yn hysbysebu am aelod o staff i ymuno â'n Canolfan Adnoddau Dysgu a pharhau i gefnogi ei ddatblygiad. Dyma gyfle anhygoel i fod yn rhan o ran arbennig iawn o'n taith.
Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at sefydlu tîm o weithwyr proffesiynol llawn cymhelliant a fydd yn cydweithio i godi safonau ar bob lefel. Rhaid i'r ymgeisydd greu amgylchedd meithringar, cadarnhaol lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial. Bydd hyfforddiant arbenigol ar gael.
Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn ymarferwyr dosbarth rhagorol:
- Yn gallu gweithio dan arweiniad y staff addysgu a/neu staff uwch, i gyflwyno rhaglenni'n seiliedig ar adnoddau arbenigol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth
- Yn gallu cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu cynlluniau addysg/ymddygiad unigol a rhaglenni gofal bugeiliol
- A fydd yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phob dysgwr, eu teuluoedd, a thîm y Ganolfan Adnoddau Dysgu
- Yn meddu ar y gallu i greu amgylchedd dosbarth cefnogol, croesawgar a threfnus
- Yn gallu dangos safon resymol o addysg, ac yn meddu ar gymwysterau TGAU, neu gyfwerth, mewn Mathemateg a llythrennedd
- NVQ 2 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu o leiaf tair blynedd o brofiad perthnasol boddhaol fel Cynorthwyydd Addysgu/Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu
Gallwn gynnig cymuned ysgol gynnes, feithringar wedi'i thanategu gan ethos cryf a chefnogaeth tîm o staff a llywodraethwyr ymroddedig a gweithgar. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r ymarfer yn ein hysgol ac i lunio'r ymarfer hwnnw.
Nododd ein harolygiad llwyddiannus yn ddiweddar gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau:
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn fan lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw'r ethos gofalgar cryf a'r ymddiriedaeth a'r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a'r gymuned leol. Mae'r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.
Yn ein hysgol, rydym yn siarad am 'fynd yr ail filltir' ac yn dangos hyn yn weithredol i'n plant, ein teuluoedd a'n cymuned. Mae'n allweddol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o'n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i'n disgyblion.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch âr Pennaeth ar HewittC30@Hwbcymru.net .
Cymerwch olwg hefyd ar wefan ein hysgol https://neylandcommunity-school.co.uk/home a'n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 23 Chwefror
Llunio'r rhestr fer: Dydd Mawrth, 24 Chwefror
Arsylwadau dosbarth: Dydd Iau, 5 Mawrth
Cyfweliadau: Dydd Gwener, 6 Mawrth (yn amodol ar wahoddiad yn dilyn arsylwad)
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.