MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Santes Fair,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 61198.00 - 70814.00 GBP per Year
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 61198.00 - 70814.00 GBP per Year
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Corff Llywodraethol yn edrych i benodi unigolyn Catholig sy'n ymarfer ei ffydd, i wella ein hysgol ymhellach. Mae Ysgol Santes Fair yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn yng Nghaergybi. Mae ein hysgol yn falch o'i holl ddisgyblion, o'r safonau uchel y maent yn eu cyflawni, o'r caredigrwydd y maent yn ei ddangos tuag at ei gilydd ac o'u hymddygiad ardderchog. Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol gyda gweledigaeth, brwdfrydedd a chred ym mhopeth sy'n bosibl.
Mae'r llywodraethwyr yn edrych am ymarferydd addysgol profiadol i ymuno â ni ym mis Medi 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, a fydd yn:
- Bennaeth neu'n ddirprwy sy'n gwasanaethu;
- Unigolyn Catholig sy'n ymarfer ei ffydd, a'i ffydd yn llywio ei ddealltwriaeth o addysg ac uwch arweinyddiaeth o fewn cyd-destun Catholig a Chymraeg;
- Ysbrydoli, yn cymell ac yn mentora staff, i gydrannu o ran datblygu'r dysgu a'r addysgu gorau;
- Galluogi ein holl blant i ddarganfod eu gwir hunain ac i ddod y gorau y gallant fod;
- Cynnal partneriaeth bositif yr ysgol gyda rhieni, plwyfi a'r gymuned ehangach.
Yn gyfnewid, bydd Ysgol Santes Fair yn darparu:
- Cyfle cyffrous i arwain ysgol dda, gynhwysol gydag ethos Catholig cryf lle mae plant yn awyddus i ddysgu;
- Staff brwdfrydig ac ymroddgar sy'n ymrwymedig i lwyddiant ein hysgol;
- Llywodraethwyr cefnogol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r ALl i gyflawni nodau gwelliant yr ysgol;
- Rhieni ymgysylltiol a chefnogol, a chymuned blwyf groesawgar.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad
CGA.
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad rhestr fer: 16 eg o Chwefror 2026
Dyddiad cyfweliad: Dydd Llun y 23 ain o Chwefror 2026 / Dydd Mawrth y 24 ain o Chwefror 2026
Ar gyfer Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person y Pennaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol: E-bost: 6603304_gweinyddol.santesfair@Hwbcymru.net neu Ffôn: 01407-763176
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person hefyd.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Rydym yn eich annog yn gynnes i ymweld â'n hysgol. I drefnu ymweliad, cysylltwch â ni drwy: Mr John Tierney (Llywodraethwr) TierneyJ2@hwbcymru.net neu Ffôn: 01407-763176
Lawrlwythwch y ffurflen gais Uwch Arweinyddiaeth gan y Catholic Education Service os gwelwch yn dda:
https://www.catholiceducation.org.uk/resources/model-application-forms
Mae nodiadau hefyd ar gael ar y wefan hon ynglŷn â chwblhau'r cais.
Dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at e-bost Swyddfa'r Ysgol (NID i'r CES)
Dyddiad Cau: Hanner dydd Iau, 12 Chwefror 2026