MANYLION.
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,273 - £36,654 (Pro Rata)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Ymgysylltu

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £30,273 - £36,654 (Pro Rata)

Hyfforddwr Ymgysylltu
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Byddwch yn hwyluso'r broses o gyflwyno gweithgareddau dysgu/asesu a chefnogi ar-lein i ddatblygu sgiliau dysgwyr M3 mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn adnabod, asesu a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg a dod yn NEET ac yn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn drwy weithredu rhaglenni cymorth unigol a all gynnwys: cymorth academaidd, strategaethau astudio, cymorth presenoldeb, mentora a datblygu sgiliau cymdeithasol a chyflogaeth. Byddwch hefyd yn cynorthwyo dysgwyr gyda'r cyfnod pontio i mewn i'r coleg, drwy'r coleg ac ar ôl coleg.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk