MANYLION.
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Technoleg Dylunio - Ysgol Greenhill

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942

Athro Dylunio a Thechnoleg

Contract amser llawn, penagored

Ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11-19 oed yw Ysgol Greenhill sy'n gwasanaethu tref gaerog hanesyddol Dinbych-y-pysgod a'r cylch. Wedi'i lleoli o fewn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'u gwerthoedd a'u hethos cryf.

Mae'r ysgol yn chwilio am ymarferydd dylunio a thechnoleg blaengar ac arloesol sy'n frwd dros sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni ei botensial.

Swydd amser llawn (cyfwerth ag un swyddog amser llawn) a phenagored yw hon, gyda'r dyddiad cychwyn ym mis Mai 2026.

Mae'r corff llywodraethu am benodi athro blaengar ac ysbrydoledig sydd:
  • Yn arloesol ac yn greadigol
  • Yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn cael y ddarpariaeth orau posibl er mwyn iddo wneud y mwyaf o'i botensial
  • Yn disgwyl y gorau gan bob un o'n disgyblion
  • Yn gallu addysgu dylunio a thechnoleg i flynyddoedd 7, 8 a 9
  • Yn gallu addysgu adeiladu a pheirianneg yng Nghyfnod Allweddol 4
  • Yn gallu addysgu adeiladu a pheirianneg yng Nghyfnod Allweddol 5

Lleolir dylunio a thechnoleg o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn Greenhill, sef maes dysgu sydd wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad yn cynnig cwricwlwm blaengar sy'n cynnwys adeiladu, dylunio a thechnoleg, cerddoriaeth, lletygarwch ac arlwyo, a'r celfyddydau perfformio hyd at lefel TGAU, ynghyd â darpariaeth chweched dosbarth sy'n ehangu'n barhaus sy'n cynnwys celf, ffotograffiaeth, tecstilau, a pheirianneg.

Mae gan yr ysgol dri gweithdy wedi'u cyfarparu'n llawn, gydag amrywiaeth o beiriannau ac offer, gan gynnig yr adnoddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ymgysylltu â'r cwricwlwm. O offer llaw traddodiadol i ardal gwaith gorgynnes bwrpasol, mae'r gweithdy peirianneg yn cynnal ystod eang o brosiectau. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnwys nifer o beiriannau gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys sawl argraffydd 3D a thorrwr laser, sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau mewn cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu.

Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, mae gennym ardal adeiladu sydd wedi'i chyfarparu ar gyfer dysgu ymarferol. Yma caiff myfyrwyr brofiad ymarferol mewn crefftau fel gwaith saer a gwaith trydanol. Maent hefyd yn cael budd o ardal yn yr awyr agored lle gellir gosod brics a datblygu eu sgiliau.

Mae'yn cynnal nifer o ymweliadau i wella dysgu disgyblion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae disgyblion wedi cael y cyfle i ymweld â Pharis a Barcelona fel rhan o gwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol, ac mae disgyblion SPARC wedi cael y cyfle i ymweld â thîm F1 Williams. Mae disgyblion sy'n astudio peirianneg wedi ymweld ag amrywiaeth o fusnesau lleol i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth am beirianneg a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig.

Yn ogystal, mae'wedi datblygu cysylltiadau cryf â nifer o fusnesau lleol. Mae'r sefydliadau hyn wedi cefnogi'yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy noddi offer a darparu ymweliadau a sgyrsiau i ddisgyblion ar draws ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys cwmnïau peirianneg forol, cwmnïau ynni gwyrdd, sefydliadau chwaraeon moduro, a phurfeydd.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.