MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,596 - £51,932
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd yn y Cyfryngau CC/3032

Coleg Cambria

Cyflog: £33,596 - £51,932

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd yn y Cyfryngau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Rhan amser (0.6 FTE 22.2 awr yr wythnos), Tymor Penodol (Hyd at fis Mehefin 2027)

Pro Rata Cyflog: £M1 £20,157.60 - UP3 £31,159.20 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i Sbin Tâl Uchaf)

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd yn y Cyfryngau i ymuno â'n tîm deinamig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn y cyfryngau, ar draws ein cyrsiau lefel 2,3 a 4.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir cryf yn y cyfryngau ac yn gallu dysgu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys newyddiaduraeth, cyfryngau digidol, ffilm, a chynhyrchu teledu. Byddwch hefyd yn gyfrifol am greu a chyflwyno deunyddiau addysgu arloesol a deniadol, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn gyfoes ac yn berthnasol i anghenion ein myfyrwyr.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial. Bydd gennych ymrwymiad cryf hefyd i lwyddiant myfyrwyr a brwdfrydedd am addysgu a dysgu

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
  • Meddu ar gymhwyster addysg Lefel 4 o leiaf
  • Dangos dealltwriaeth o'r datblygiadau presennol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
  • Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu

Mae sgiliau Iaith y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 3 a dangos ymrwymiad i gyflawni rhuglder. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r datblygiad hwn trwy gynllun datblygu proffesiynol wedi'i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith y Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig